Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau statudol gydag adroddiadau clir

20 Ebrill 2015

 

 

CLA512 - Rheoliadau Rasio Beiciau ar Briffyrdd (Diwygio) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ac yn diweddaru Rheoliadau Rasio Beiciau ar Briffyrdd 1960 i adlewyrchu cyflwr presennol y ffyrdd ac agweddau modern tuag at ddiogelwch y cyhoedd a chystadleuwyr. 

 

CLA514 - Rheoliadau Deddf Tai (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) 2015

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Contractio Allan o Swyddogaethau Dyrannu Tai a Digartrefedd) 1996 o ganlyniad i Ddeddf Tai (Cymru) 2015.

Defnyddir rheoliadau i ddiwygio Gorchymyn. Ni chaniateir hyn fel arfer, ond mae'n briodol mewn perthynas â Diwygiadau Canlyniadol.

 

CLA515 - Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2015

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1792 (Cy. 185)) (“y prif Reoliadau”).

 

Mae’r prif Reoliadau yn gweithredu Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1) (“y Gyfarwyddeb”). Mae Erthygl 13d o’r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol bod Aelod Wladwriaethau yn codi ffioedd i dalu am gostau’r gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion mewn perthynas â mewnforion penodol o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd a nodir yn Atodiad V, Rhan B o’r Gyfarwyddeb.

 

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 2(3) o’r prif Reoliadau er mwyn egluro’r ffioedd sy’n daladwy mewn perthynas â gwiriadau iechyd planhigion a wneir ar lwythi (neu rannau o lwythi) y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd.

 

Mae Atodlen 2 i’r prif Reoliadau yn nodi’r ffioedd cyfradd ostyngol ar gyfer planhigion a chynhyrchion planhigion penodol sy’n ddarostyngedig i wiriadau iechyd planhigion lefel is a gytunwyd o dan y weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 13a(2) a 18(2) o’r Gyfarwyddeb. Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 er mwyn rhoi effaith i’r hysbysiad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ar 30 Medi 2014 am y gwiriadau iechyd planhigion lefel is sy’n gymwys i blanhigion a chynhyrchion planhigion penodol. 

 

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn cadarnhau na fu unrhyw fewnforion uniongyrchol o'r cynhyrchion hyn i Gymru ers dyddiad hysbysiad y Comisiwn.  Yn unol â hynny, nid oes unrhyw fewnforwyr wedi bod o dan anfantais oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers caniatau cyflwyno'r gwiriadau is.

 

CLA516 - Rheoliadau Defnyddio Cerbydau Pobl Anabl ar Briffyrdd (Diwygio) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae Rheoliadau Defnyddio Cerbydau Pobl Anabl ar Briffyrdd 1988 (“Rheoliadau 1988”) yn gwneud darpariaeth ynghylch y gofynion y mae’n rhaid i gerbydau pobl anabl gydymffurfio â hwy, a’r amodau y mae’n rhaid defnyddio cerbydau pobl anabl yn unol â hwy, er mwyn manteisio ar esemptiadau penodol rhag deddfwriaeth traffig ffyrdd a nodir yn adran 20 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970.

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi rheoliad newydd yn lle rheoliad 7 o Reoliadau 1988 er mwyn cyflwyno gofyniad newydd sy’n ymwneud â cherbydau pobl anabl sy’n cynnwys cyfarpar defnyddiwr angenrheidiol.

 

 

CLA520 – Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru.  Mae hefyd yn pennu'r swm sydd i'w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2014 i 11 Medi 2015, at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”).  Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/41 (Cy.3)).

 

 

CLA521 - Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cyfyngiadau cyflymder amrywiol ar hyd darn o'r M4 o amgylch Casnewydd. Mae'r rheoliadau hyn yn dirymu rheoliadau cyfatebol 2011 oherwydd bod rhai rhannau o ffyrdd ymuno / ymadael yr M4 yn cael eu cwmpasu gan reoliadau 2011 a gorchmynion traffig ffordd eraill. Mae'r rheoliadau hyn yn cael gwared ar y gorgyffwrdd hwnnw ac yn sicrhau bod pob darn o'r rhan hon o'r M4 yn cael ei reoleiddio gan un offeryn yn unig.

 

 

CLA517 - Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Tai 1996 ('Deddf 1996') sy'n codi o ganlyniad i Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (“Deddf 2014”).

 

Mae adran 160A o Ddeddf 1996 yn darparu na chaiff awdurdod lleol ddyrannu llety tai i bersonau anghymwys.  Mae adran 160A(8) yn darparu bod ymddygiad a fyddai'n rhoi hawl i'r awdurdod lleol orchymyn ildio meddiant o dan Ddeddf Tai 1985 ('Deddf 1985') yn anghymhwyso person sy'n cymryd rhan mewn ymddygiad o'r fath.

 

Diwygiodd Ddeddf 2014 Ddeddf 1985 i ychwanegu tir newydd dros feddiannu.  Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 1996 fel ei fod bellach yn cyfeirio'n ychwanegol at y tir newydd dros feddiannu.